Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

 

1. Hawliau dynol a chydraddoldeb

Mae’r Pwyllgor wedi gofyn am wybodaeth bellach am y gyfradd ad-dalu ar gyfer y rheini sy’n 30, 40, 50, 55 oed etc. Mae’r tabl isod yn darparu’r data, ac mae’n gyson â’r hyn a ddefnyddiwyd fel sail i’r Memorandwm Esboniadol.

 

Oedran wrth ddechrau ad-dalu

30

40

50

55

 

Incwm cyfartalog

£40,390

£48,640

£46,909

£45,657

 

Ad-daliad blynyddol cyfartalog

£1,163

£1,658

£1,555

£1,479

 

Cyfanswm yr ad-daliad

£10,000

£10,000

£10,000

£10,000

 

Cyfradd ad-dalu

100%

100%

100%

100%

 

 

 

 

 

 

 

Oedran wrth ddechrau ad-dalu

60

65

70

75

79

Incwm cyfartalog

£33,231

£29,588

£27,164

£23,574

£20,241

Ad-daliad blynyddol cyfartalog

£734

£515

£370

£154

£0

Cyfanswm yr ad-daliad

£8,713

£5,043

£2467

£618

£0

Cyfradd ad-dalu

87%

50%

25%

6%

0%

Ffynhonnell y data incwm: Effeithiau trethi a budd-daliadau ar incwm aelwydydd 2014-15, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae incwm yn cynnwys pob ffynhonnell incwm gan gynnwys cyflogau, incwm wedi ei briodoli i fuddion mewn nwyddau neu wasanaethau, incwm hunangyflogaeth, pensiynau preifat, blwydd-daliadau, incwm buddsoddi ac incwm arall.

 

Mae’r tebygolrwydd y caiff y benthyciad ei ad-dalu yn cael ei fodelu drwy ystyried yr incwm cyfartalog ar gyfer pob grŵp oedran, sy’n cynnwys pensiwn y wladwriaeth pan fo’n briodol. Rhagdybir y caiff benthyciad o £10,000 ei ad-dalu gan y rheini y mae ganddynt incwm dros £21,000, ac y caiff ei ad-dalu ar gyfradd o 6% o unrhyw incwm dros £21,000.

Nodwyd gan y Pwyllgor fod y Memorandwm Esboniadol yn datgan na fydd y rheini sy’n 60 oed a throsodd, ar gyfartaledd, yn ad-dalu’r benthyciad, tra bo’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn datgan bod pobl dros 60 oed yn annhebygol o ad-dalu’r benthyciad. Y data ystadegol uchod yw’r sail dros y ddau ddatganiad y bwriedir iddynt fod yn gyfatebol. Yn R (on the application of Carson) V Secretary of State for Work and Pensions; R (on the application of Reynolds) v Secretary of State for Work and Pensions [2005] 4 All ER 545, dywedodd yr Arglwydd Hoffman:

a line must be drawn somewhere. All that is necessary is that it should reflect a difference between the substantial majority of the people on either side of the line”.

Barn Llywodraeth Cymru yw, ar ôl pwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol, fod terfyn oedran o 60 oed yn cyflawni cydbwysedd teg a chymesur rhwng budd y cyhoedd a buddiannau eraill sy’n gysylltiedig ac, felly, y gellir cyfiawnhau hyn.

O ran y prawf pedwarplyg, rydym o’r farn bod nod dilys gan y llinell bendant a dynnir, a’i bod yn gysylltiedig yn rhesymegol â’r nod hwnnw:  darperir benthyciadau ôl-raddedig yng nghyd-destun adnoddau cyfyngedig gyda’r nod o hyrwyddo addysg a fydd yn gwella’r cyflenwad o weithwyr medrus iawn i ateb galw cyflogwyr ac i gyfrannu at economi gystadleuol. Yng nghyd-destun adnoddau cyfyngedig, nod y Llywodraeth oedd sefydlu system gyllido gynaliadwy sy’n cynrychioli budd sylweddol o’r buddsoddiad, h.y. y benthyciadau. Er mwyn cyflawni’r nod hwnnw, mae’n hollbwysig bod ad-daliadau yn cael eu casglu’n effeithlon ac yn effeithiol. Mae’r data ystadegol mewn cysylltiad â chyfraddau ad-dalu ar gyfer gwahanol grwpiau oedran yn dystiolaeth wrthrychol bod cysylltiad rhesymegol rhwng y terfyn oedran o 60 oed a’r nodau hynny. Ystyriwyd y posibilrwydd o fesurau llai ymwthiol i gyflawni nod y Llywodraeth wrth ystyried pa mor gymesur yw’r mesur. Ystyriwyd y byddai system arall a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol ymgymryd ag ymchwilio ac asesu unigol yn creu baich gweinyddol trwm a fyddai’n defnyddio adnoddau prin a chyflwyno’r posibilrwydd y gwneid penderfyniadau anghyson, ac y byddai system o’r fath yn llai priodol na rheol llinell bendant. I grynhoi, yng ngoleuni’r holl gyfraith achosion berthnasol ac ar sail tystiolaeth wrthrychol, ystyrir bod modd cyfiawnhau rheol llinell bendant.

Barn Llywodraeth Cymru yw y bydd yr un ystyriaethau o ran cyfiawnhad gwrthrychol yn gymwys i gyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol ar sail oedran o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (adran 13(2)).

 

2. Uchafswm y benthyciad ar gyfer carcharorion cymwys

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol a’r Nodiadau Esboniadol wedi eu llunio ar y sail y cyfeirir at reoliad 12. Felly, bydd yn amlwg, yn achos carcharorion cymwys, mai uchafswm y benthyciad yw £10,280; y sail o ran polisi yw na fydd y carcharor cymwys ond yn defnyddio’r benthyciad i dalu am ffioedd y cwrs, yn hytrach nag unrhyw elfen gynnal dybiannol i’r benthyciad. 

 

Wedi dweud hynny, gallai’r Memorandwm Esboniadol a’r Nodiadau Esboniadol fod wedi ailadrodd yn unswydd y cafeat hwn.